Canolfan Gymunedol y Cyreniaid
Mae Canolfan Gymunedol y Cyreniaid yn ganolfan arobryn sy’n cynnig gwasanaethau iechyd, cymorth, bwyd cymorthdaledig, cyngor a hyfforddiant i bobl ddifreintiedig yn ystod y dydd, a lleoliad ar gyfer grwpiau cymunedol gyda’r nos.
Mae pobl na fyddent yn gallu cael gafael ar ofal meddygol fel arall yn gallu gweld amrywiaeth o nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol arbenigol a chofrestru gyda meddygfa.
Mae cymorth gyda thai, rheoli arian a materion cymdeithasol eraill ar gael trwy ein tîm o staff hyfforddedig ac asiantaethau partner.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys: cawod a golchdy; llyfrgell; ystafell TG gyda mynediad i’r rhyngrwyd; defnydd o ffôn
Gellir lawrlwytho amserlen newydd Canolfan Gymunedol y Cyreniaid yma (Fformat PDF 1Mb)
Gallwn ddarparu hyfforddiant rhad ac am ddim i bobl mewn rhai amgylchiadau. Darllenwch ein meini prawf cymhwysedd.
Mae’r manylion cyswllt ar gael ar ein tudalen gysylltiadau.