Newyddion a Digwyddiadau
Ymwelwch â’r tudalennau hyn yn rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn ein canolfannau, gyda’n cleientiaid ac ar draws ein sector.
Diwrno adeiladu tîm Tai Pawb
24 Gorffennaf 2014
Daeth staff o Dai Pawb i roi cynnig ar grochenwaith yng Nghanolfan Celfyddydau a Dysg y Ddraig heddiw.
Sefydliad sy'n credu mewn cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol o fewn y sector tai yw Tai Pawb. Cred Tai Pawb fod gan bawb yr hawl i Gartref safonol mewn cymunedau diogel a chlos.
Dysgodd y staff sut i 'daflu' pot ar ein holwyn crochenwaith.
Bu ein hwylusydd, Pab Phillips, yn arddangos y dechneg ac yna cafodd pawb gyfle i greu eu llestr eu hun. Cafodd pawb amser da a gobeithiwn eu gweld yn ôl yn DAL yn fuan i droi eich llaw at rywbeth arall?!
Prosiect Cyanoteip Dylan Thomas yn DAL
21 Gorffennaf 2014
Y broses cyanoteip yw un o’r rhai mwyaf hwylus i gymryd rhan ynddi. Er bod offer arbenigol yn cael ei ddefnyddio, mae’n broses greadigol y gall y rhan fwyaf o bobl ymwneud â hi, gyda chymorth.
Trwy’r cwrs o 8 sesiwn, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn archwilio gwaith Dylan Thomas trwy gyfres o ymweliadau, trafodaethau a sesiynau blasu ffotograffiaeth i ddechrau. Byddant yn cael eu hannog i ddod o hyd i thema neu symbol/symbolau arbennig yng ngwaith Thomas sy’n berthnasol iddyn nhw fel sail i’w gwaith. Byddant hefyd yn cydweithio ar ddarn mawr o waith celf a fydd yn ganolbwynt i arddangosfa sydd wedi’i chynllunio ar gyfer diwedd mis Medi.
Byddant yn parhau i ddatblygu’r syniadau hyn fel grŵp gyda sesiynau cynllunio a gweithdai cerameg a ffotograffiaeth. Byddant yn ymweld â’r Boat House yn Nhalacharn a Pharc Cwmdonkin hefyd. Cynhelir y sesiynau ddydd Llun a dydd Mawrth o 10am tan 1pm yn y Ganolfan.
Nid oes llawer o leoedd ar gael felly ffoniwch 01792 467926 i gadw eich lle.
Mae CESA wedi symud!
11 Gorffennaf 2014
Hoffai’r tîm yn CESA roi gwybod i’w holl asiantaethau partner eu bod wedi symud i’w safle newydd gwych yng nghanol y ddinas yn 12 Sgwâr y Santes Fair, Abertawe SA1 3LP, 01792 464229. Galwch heibio neu ffoniwch i drefnu apwyntiad i gael cymorth a chyngor ynglŷn â chyflogaeth.
Dilynwch CESA ar Twitter @CESA_Cetwales.
Mis Gwenu Cenedlaethol
30 Mai 2014
Y mis gwenu cenedlaethol yw’r ymgyrch iechyd y geg fwyaf sydd wedi bod yn cael ei chynnal hiraf yn y Deyrnas Unedig. Gyda chymorth miloedd o unigolion a sefydliadau, mae’r Mis Gwenu Cenedlaethol yn hyrwyddo tair neges allweddol sy’n mynd ymhell tuag at ein helpu ni i ddatblygu a chynnal ceg iach, sef:
- Brwsiwch eich dannedd am ddwy funud ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid
- Ceisiwch fwyta ac yfed llai o fwydydd a diodydd sy’n llawn siwgr
- Ewch at eich deintydd yn rheolaidd, mor aml ag y mae’n argymell
Mae staff Canolfan Gymunedol y Cyreniaid wedi bod yn gweithio gyda’n defnyddwyr gwasanaeth i ddangos pwysigrwydd hylendid y geg.
Ewch i’w gwefan i gael rhagor o wybodaeth
http://www.nationalsmilemonth.org/
Prosiect Cymunedol Dathlu Dylan
6 Mai 2014
I gyd-fynd â’r arddangosfa Abertawe Dylan, mae Amgueddfa Abertawe yn cynnal cyfres o weithdai celf cymunedol ac ymweliadau ag amgueddfeydd i archwilio agweddau ar fywyd a gwaith Dylan. Bydd canlyniad y gweithdai’n cael ei arddangos mewn arddangosfa yn Oriel Hir yr Amgueddfa rhwng 2 Mai a 15 Mehefin 2014, a bydd yn ffurfio rhan o’r digwyddiadau ehangach yn 2014 i ddathlu 100 mlynedd ers genedigaeth Dylan Thomas.
Arweinir y ddau brosiect gan yr artistiaid Mary Hayman a Rhiannon Morgan. Bydd Mary Hayman yn gweithio gyda grŵp o gyfranogwyr yng Nghanolfan Gymunedol y Cyreniaid yn Dyfatty. Byddant yn gweithio ar brosiect cyfryngau cymysg a fydd yn canolbwyntio ar agweddau ar fywyd Thomas yn Abertawe.
Bydd Rhiannon Morgan yn gweithio ar brosiect tecstilau gyda menywod o leiafrifoedd ethnig yng Nghyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe. Bydd y grŵp yn ystyried pwy oedd Dylan Thomas ac yn archwilio’r thema “Dathlu”.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Amgueddfa Abertawe ar 01792 653763 neu ein canolfan gymunedol ar 01792 470127.
Gweithio mewn Partneriaeth â ‘Bwyd am Oes’
24 Ebrill 2014
Mae ‘Bwyd am Oes Cymru’, sef rhaglen cymorth bwyd sydd wedi’i lleoli’n bennaf yn ardaloedd Abertawe a Chaerdydd sy’n helpu i fwydo’r rhai hynny sydd mewn angen, yn ymgyrch o dan ISKCON (y Gymdeithas Ryngwladol Ymwybyddiaeth Krishna), rhif elusen 259649. Eu nod yw helpu elusennau eraill sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth i’r gymuned leol, fel Cyreniaid Cymru.
Trwy eu rhaglen cymorth bwyd, maen nhw wedi cytuno’n garedig i ddarparu pryd bwyd llysieuol poeth bob nos Iau yn ein Canolfan Gymunedol ar y Stryd Fawr, Abertawe, ar gyfer dros 60 o bobl ddigartref ac agored i niwed. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl sy’n byw mewn tlodi yn yr ardal.
Hoffem ddiolch yn fawr i’w staff a’u gwirfoddolwyr am y bwyd blasus.
Rhagor o wybodaeth am Fwyd am Oes Cymru.
Digwyddiad Ymwybyddiaeth o Ganser Ceilliol yn CCC
9 Ebrill 2014
Bydd Canolfan Gymunedol y Cyreniaid, y Stryd Fawr, Abertawe, yn cynnal digwyddiad Ymwybyddiaeth o Ganser Ceilliol ddydd Mercher 9 Ebrill.
Rhoddir cyngor ar sut i archwilio’ch hun a sut i aros yn iach a sylwi ar arwyddion cynnar canser.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gymunedol y Cyreniaid.
Tesco yn rhoi bwyd i bobl ddigartref
4 Ebrill 2014
DIOLCH!
Hoffai Canolfan Gymunedol y Cyreniaid ddiolch i staff siop Tesco’r Marina, Abertawe, am eu rhodd hael o goronau twrci, llysiau a thrimins, sy’n gwneud pryd iachus a maethlon iawn i bobl sy’n ddigartref neu dan anfantais gymdeithasol ac yn cynorthwyo i fynd i’r afael â thlodi yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Abertawe. Byddant hefyd yn sefydlu ‘man banc bwyd’ yn y siop ar gyfer Canolfan Gymunedol y Cyreniaid, fel bod cwsmeriaid yn gallu rhoi eitemau’n uniongyrchol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gymunedol y Cyreniaid.
Ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn
3 Ebrill 2014
Bydd Canolfan Gymunedol y Cyreniaid, y Stryd Fawr, Abertawe yn cynnal digwyddiad Ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn ddydd Iau 3 Ebrill rhwng 10:00am a 1:00pm.
Fe’i cefnogir gan Macmillan ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd gwybodaeth, cymorth ac arweiniad ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gymunedol y Cyreniaid.
Rasoi yn Helpu Pobl Ddigartref yn Abertawe
24 Mawrth 2014
Gwnaeth Rasoi Indian Kitchen ym Mhontlliw fwydo dros chwe deg o bobl sy’n ddigartref neu mewn sefyllfa fregus o ran tai yn Abertawe mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ddydd Mawrth 18 Mawrth.
Cynhaliwyd y digwyddiad mewn canolfan gymunedol ar y Stryd Fawr sy’n cael ei rhedeg gan y Cyreniaid Cymru, sef elusen ddigartrefedd leol, sy’n bodoli i fynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd sydd wedi ymwreiddio yn ne-orllewin Cymru.
Darparodd tîm Rasoi, dan arweiniad cyd-berchennog y bwyty, Suki Kullar, amrywiaeth o brydau Indiaidd poeth yn y ganolfan gymunedol a dysgu mwy am anghenion pobl sy’n cael eu helpu gan y Cyreniaid ar hyn o bryd.
Dywedodd Suki Kullar, cyd-berchennog Rasoi Indian Kitchen:
“Roeddem ni’n falch iawn o ddarparu bwyd ar gyfer y noson, ac roedd yn wych gweld pawb yn ei fwynhau.
Mae Rasoi Indian Kitchen wedi sefydlu Cenhadaeth Sikhi Sewa y DU, ac yn ei chefnogi, sef elusen yn yr India sy’n ceisio gwella bywydau pobl dlawd ac agored i niwed trwy well gofal iechyd. Felly, roeddem ni’n barod iawn i gynorthwyo Cyreniaid Cymru i ddarparu eu gwasanaeth hollbwysig, ac mae gwneud hynny wedi rhoi cyfle i ni ddysgu mwy am y bobl agored i niwed sy’n byw yn ein dinas.
Gobeithiwn y bydd y digwyddiad yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan y Cyreniaid Cymru a thrafferthion pobl sy’n byw mewn tlodi yn Abertawe.” Dywedodd un o’r derbynwyr, Hedi Ashkanian, “Roedd y bwyd yn flasus iawn! Ro’n i am gael y rysáit. Fe fwynheues i’r digwyddiad yn fawr!”
Dywedodd Polly Stone, Rheolwr Marchnata a Phartneriaethau Cyreniaid Cymru:
“Rydym ni mor ddiolchgar i Rasoi am ddarparu bwyd ar gyfer y digwyddiad hwn. O ganlyniad i’r diwygiadau lles, rydym ni’n gweld mwy o bobl yn dod i’r ganolfan yn eisiau prydau poeth.”
Siarad am Ryw
12 Mawrth 2014
Dewch i’n digwyddiad Siarad am Ryw ddydd Mercher 12 Mawrth yng Nghanolfan y Cyreniaid Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10:00am a 1:00pm, a bydd yn rhoi cymorth, arweiniad a chyngor ar y pynciau a’r cwestiynau canlynol:
Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, cymryd risgiau, hunan-barch, pwy wnaethoch chi gysgu ag ef/hi neithiwr? Atal cenhedlu a chondomau, sgwrs gyfrinachol a phrofi am glamydia.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gymunedol y Cyreniaid.
Diwrnod Dim Ysmygu
11 Mawrth 2014
Bydd Canolfan Gymunedol y Cyreniaid yn cynnal digwyddiad Diwrnod Dim Ysmygu. Bydd awgrymiadau da, cyngor a chymorth ar gael ynglŷn â sut i roi’r gorau i ysmygu.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10:00am a 1:00pm ddydd Mawrth 11 Mawrth. Os hoffech chi ddod, ffoniwch neu ymwelwch â Chanolfan Gymunedol y Cyreniaid.
Bwyd a Hwyliau gyda Hafal
28 Chwefror 2014
Bydd Canolfan Gymunedol y Cyreniaid yn cynnal digwyddiad Bwyd a Hwyliau ar 28 Chwefror.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10:00am a 1:00pm a bydd cyngor ac arweiniad ar gael gan Hafal ar fwydydd iach, bwyta’n iach a pha fwydydd sy’n dda ar gyfer hwyliau da.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gymunedol y Cyreniaid.
Diwrnod Calon Iach
14 Chwefror 2014
Beth am ddod i’n Diwrnod Calon Iach ddydd Gwener 14 Chwefror yng Nghanolfan Gymunedol y Cyreniaid?
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10:00am a 1:00pm, gyda bwyd iach, cyngor ar fwyta’n iach, cyngor ar roi’r gorau i ysmygu a chyngor ar fod yn fwy heini.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gymunedol y Cyreniaid.
Swansea: Return to the streets
5th Chwefror 2014
Bydd y gyfres newydd yn dychwelyd am 10.35pm nos Lun 10 Chwefror ar y BBC.
Dilynwch hanesion pobl ddigartref yn Abertawe.
Mae’r gwneuthurwyr ffilmiau Chris Rushden a Tracy Harris yn dilyn hanesion cymhellol pobl ddigartref yn Abertawe, gan ddangos i ni fywydau’r bobl nad oes ganddynt ddewis ond byw ar y strydoedd.
Diwrnod Caru eich Afu
29 Ionawr 2014
Mae Canolfan Gymunedol y Cyreniaid yn cynnal digwyddiad ‘Caru eich Afu’. Bydd awgrymiadau da a chyngor ar gael, yn rhoi gwybod i chi beth mae’ch afu yn ei wneud yn eich corff a sut gallwch chi ei gadw’n iach.
Bydd cyngor ar gael hefyd ar alcohol a’ch afu, alcohol a’ch bywyd carwriaethol, Hepatitis C ac imiwneiddiadau Hepatitis A a B ar gyfer cleifion sydd ‘mewn perygl’.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10.00am a 1.00pm ddydd Mercher 29 Ionawr. Os hoffech chi ddod, ffoniwch neu ymwelwch â’r ganolfan.
Cynllun Dodrefn y Cyreniaid – Resarec gynt
22 Ionawr 2014
Mae Resarec yn ailfrandio ei hun fel Cynllun Dodrefn y Cyreniaid.
Os ydych chi’n ein dilyn ni ar Facebook, byddwch chi’n cael negeseuon rheolaidd yn arwain at yr adeg pan fydd y dudalen Resarec yn cau. Gwneir hyn er mwyn i chi hoffi a rhannu’r dudalen newydd. Yna gallwch barhau i dderbyn manylion a lluniau stoc newydd a diwrnodau gwerthu. Mae’r dudalen newydd yn fyw. Dilynwch y ddolen isod. Hoffwch y dudalen newydd a’i rhannu ymhlith eich rhwydweithiau. Mae llawer o fargeinion gwych ar gael!
www.facebook.com/CyreniansFurnitureScheme
Lleoliadau Allgymorth Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid
Ionawr 2014
Bydd Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid (CESA) yn cynnig gwasanaeth galw heibio mewn lleoliadau amrywiol yn dechrau ym mis Chwefror.
Dydd Llun: Llyfrgell St. Thomas
Dydd Mawrth: Llyfrgell Clydach
Dydd Mercher: Llyfrgell Treforys a Llyfrgell Gorseinon
Gallwch wneud apwyntiadau ym mhrif swyddfa CESA drwy gydol yr wythnos hefyd.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion:
Rhif ffôn: 01792 464229 Email: cesa@cetwales.co.uk