Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid
Mae Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid yn darparu datrysiadau recriwtio proffesiynol, rhad ac am ddim i fusnesau lleol yn ogystal â phecyn o gymorth a chyngor ymarferol wedi’i deilwra i’r unigolyn ar gyfer ceiswyr gwaith ar draws ardal Bae Abertawe.
Mae hyn yn cynnwys cyfrifiaduron a mynediad am ddim i’r rhyngrwyd i’r rhai sy’n chwilio am waith, cymorth i ysgrifennu CV a llenwi ffurflenni cais, gwybodaeth am yrfaoedd a chyngor ar hyfforddiant a pharatoi am gyfweliad.
Mae manylion cyswllt ar gael ar ein tudalen gysylltiadau.