Astudiaethau Achos
Mae cleientiaid Cyflogaeth a Hyfforddiant y Cyreniaid yn dod o bob cefndir ac mae ganddynt oll eu hanesion unigryw eu hunain i’w hadrodd am sut y daethant i gysylltiad â’r sefydliad. Dyma ddetholiad o hanesion gan ein cleientiaid i roi syniad o rai o’r rhwystrau y maent wedi’u goresgyn i ennill sgiliau a chymwysterau trwy CET.
Ymwelwch â’r tudalennau hyn yn rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn ein canolfannau, gyda’n cleientiaid ac ar draws ein sector.
Sut mae’r prosiect CSET yn creu gwasanaeth cyflogaeth a hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer y rhai sydd wedi ymddieithrio o’r farchnad lafur.
Mae CSET, sydd wedi derbyn £6,024,966 gan yr Undeb Ewropeaidd ac arian cyfatebol o £5,383,105 yn genedlaethol, wedi’i gynllunio i gynorthwyo’r oedolion sydd wedi ymddieithrio mwyaf ac sy’n fwyaf agored i niwed yng nghymuned Bae Abertawe, lle y ceir y gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf, i ddatblygu sgiliau cyflogadwy a mynediad at waith.
Mae’r prosiect CSET yn ymfalchïo mewn cynnig gwasanaeth anffurfiol ac wedi’i deilwra i unigolion a allai fod yn wynebu nifer o wahanol rwystrau rhag cyflogaeth.
Ian
Pan fu Ian Lewis allan o waith am gyfnod hir o ganlyniad i ddamwain diwydiannol, nid oedd yn gwybod sut i ddychwelyd i weithio, a chael trefn ar ei fywyd, tan iddo ddechrau ymwneud â phrosiect Cyflogaeth a Hyfforddiant â Chymorth (CSET) y Cyreniaid.
Dywed Ian:
“Roedd y ddamwain wedi fy llorio i. Y cyfan ro’n i’n ei wneud oedd cael papur gan y meddyg bob mis a’i gyflwyno. Rhai diwrnodau, bydden i’n crïo oherwydd ’mod i mor isel. Doeddwn i ddim eisiau mynd allan. Fe barodd hynny am amser hir, doedd dim byd yn newid.
Dywedwyd wrtha i am y prosiect pan oeddwn i mewn apwyntiad yn fy Nghanolfan Waith leol. Cefais fy rhoi mewn cysylltiad â menyw o’r enw Rhian Richards, sy’n hyfforddwr swyddi gyda’r prosiect CSET. Roedd natur y gwasanaeth wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol ac ro’n i’n gallu bwrw fy mol am fy namwain. Cynigiodd Rhian fy helpu i lunio CV gan ’mod i’n cael trafferth gyda darllen ac ysgrifennu. Roedd angen diweddaru fy CV yn druenus gan ’mod i wedi bod i ffwrdd o’r gwaith am beth amser. Eisteddodd Rhian i lawr gyda mi ac fe wnaethon ni ei ailysgrifennu gyda’n gilydd. Rhoddodd hynny lawer o hyder i mi ynof i fy hun eto i ddechrau.
Llenwais ffurflenni cais ac fe es i â chopïau o fy CV newydd i fusnesau lleol. Fe adewais un CV yn Vizor Tempered Glass Ltd, sy’n gweithgynhyrchu a dosbarthu unedau gwydr wedi’u selio. Fe wnaethon nhw gysylltu â mi o fewn pedair wythnos o’i dderbyn, gan ofyn i mi ddod am gyfweliad. Fe wnaeth Rhian wneud rhywfaint o waith ar sgiliau cyfweliad gyda mi o flaen llaw, a rhoddodd hynny hwb arall i fy hyder.
Ar ôl y cyfweliad, fe gynigion nhw swydd i mi fel gyrrwr HGV. Rwy’n ennill cyflog eithaf da nawr ac mae hynny wedi fy helpu i ddod allan o’r twll ro’n i ynddo. Rwy’n llawer mwy iach a hapus. Mae’n wych!
Ro’n i mor hapus â’r gwasanaeth a gefais i gan Rhian a’r prosiect. Rydw i wedi argymell y prosiect i bobl eraill rwy’n eu hadnabod sydd wedi mynd i rigol fel yr oeddwn i.
Mae Ian yn un yn unig o’r 8,000 o bobl sy’n cymryd rhan ym mhrosiect CSET, a’r 1,500 o bobl y mae CSET wedi’u helpu i gael gwaith, ac aros ynddo, ym Mae Abertawe hyd heddiw.
Mae CSET, sydd wedi derbyn £6,024,966 gan yr Undeb Ewropeaidd ac arian cyfatebol o £5,383,105 yn genedlaethol, wedi’i gynllunio i gynorthwyo’r oedolion sydd wedi ymddieithrio mwyaf ac sy’n fwyaf agored i niwed yng nghymuned Bae Abertawe, lle y ceir y gyfradd anweithgarwch economaidd uchaf, i ddatblygu sgiliau cyflogadwy a mynediad at waith.
Simon
Ac yntau’n ddesbrad i gael swydd oherwydd bod ei amgylchiadau teuluol ar fin newid, nid oedd Simon yn gwybod sut i ailymuno â’r farchnad lafur tan iddo glywed am brosiect Cyflogaeth a Hyfforddiant â Chymorth (CSET) y Cyreniaid.
Roedd Simon wedi cael trafferth dod o hyd i waith tymor hir yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ar ôl cael ei ddiswyddo’n sydyn o’i swydd bresennol, a bod yn ddi-waith am chwe mis cyn hynny, roedd yn chwilio’n daer am gyflogaeth barhaol ond nid oedd ei CV yn edrych yn dda. Roedd ganddo broblemau personol hefyd a oedd yn gwneud iddo deimlo fel pe bai mewn sefyllfa fregus.
Dywedodd,
“Ro’n i’n ddesbrad i gael swydd. Roedd fy nghariad chwe mis yn feichiog gyda fy mhlentyn cyntaf, ac roedd angen i mi wneud gwaith trwsio brys ar fy nhŷ.
Cefais fy niswyddo, ac fe es i i’r Ganolfan Waith i gofrestru. Dyw’r Ganolfan Waith ddim bob amser yn gwybod ble mae’r holl swyddi gwag lleol, a doeddwn i ddim yn gallu chwilio fy hun gan ’mod i ddim yn dda gyda chyfrifiaduron. Roedd angen i mi ddiweddaru fy CV yn druenus hefyd."
Atgyfeiriwyd Simon i’r prosiect CSET a rhoddwyd rhif Tim Moss iddo, sef Swyddog Cyswllt Cyflogwyr sy’n gweithio yn Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid, a oedd yn gallu cynnig gwasanaeth wedi’i deilwra i Simon.
Roedd Tim wedi creu perthynas dda gyda chyflogwyr lleol a oedd yn deall yr anawsterau sydd gan geiswyr gwaith sydd wedi ymddieithrio, wrth geisio cyrraedd y cam cyfweliad hollbwysig. Daeth Simon ag un o’i hen CVs gydag ef i’r cyfarfod gyda Tim. Ar ôl eistedd gyda Simon a diweddaru ei CV, sylweddolodd Tim fod gan Simon yr holl sgiliau yr oedd eu hangen ar gyfer swydd gyda Toyoda Gosei – cwmni gweithgynhyrchu rhannau ceir yn Abertawe. Roedd y swydd yn cael ei hysbysebu gan Concept Recruitment Group Ltd. Cyfarfu Tim â’r cyflogwr a rhoi CV iddo ar ran Simon, a galwyd Simon am gyfweliad bythefnos yn ddiweddarach.
“Yn y cyfweliad fe wnaethon nhw ddisgrifio’r gwaith i mi, a rhoi prawf bach i mi. Yna fe wnaethon nhw fy ffonio yr un prynhawn a dweud ’mod i wedi cael y swydd ac y gallen i ddechrau’n syth! Ar ben hynny, contract parhaus dros dro yw hwn, felly rwy’n gobeithio y bydda i’n gweithio i Toyoda am amser hir iawn.
Rwy’n gweithio yn yr adran chwistrell-baentio. Rydyn ni’n llwytho rhannau o’r tu mewn i gar i mewn i’r ‘jigiau’ ac maen nhw’n paentio’r rhannau. Mae’n rhaid i ni gadw’r ardal yn lân ac yn daclus ac rydw i wedi cael hyfforddiant Iechyd a Diogelwch gyda Toyoda, sy’n ychwanegu at fy sgiliau.
Dywedodd Tim wrtha i fod gen i hawl i gael grant dechrau swydd o £50 a oedd wedi helpu’n fawr gyda chludiant a phethau roedd angen i mi eu cael ar gyfer gwaith.
Dywedodd Tim wrtha i hefyd y gallen i barhau i gael cymorth yn y gwaith gan y prosiect CSET am chwe mis arall os oedd angen. Mae hyn yn bwysig i mi gan fod fy nghariad yng nghyfnod olaf ei beichiogrwydd a gallai hynny darfu ar fy amgylchiadau gweithio. Mae gwybod bod Tim yn gallu diweddaru fy CV a chysylltu â fy nghyflogwr yn wych! Roedd y gwasanaeth gan Tim a CSET yn rhagorol. Roedd pethau’n gwella. Roedd y CV yn ffantastig. Mae Tim wedi fy helpu i fwy nag y gallai ddychmygu.”
Dywedodd llefarydd o Concept Recruitment Group Ltd.,
“Mae’n bwysig iawn i ni fel asiantaeth recriwtio sy’n dod o hyd i staff addas ar gyfer cyflogwr lleol mawr, wybod ein bod ni’n cael yr unigolyn iawn i’r swydd, a hynny mor gyflym â phosibl er mwyn bodloni eu terfynau amser a chael eu cynhyrchion i’n cyflenwyr."
Dywedodd Tim,
“Mae gennym ni berthynas dda â Concept Recruitment ac maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â mi i ddweud eu bod nhw’n hapus iawn gyda Simon ac wedi rhoi adborth da. Fe ddylai fod yn falch o’i hun”.
Mae Simon yn un yn unig o’r 8,000 o bobl sy’n cymryd rhan ym mhrosiect CSET, a’r 1,500 o bobl y mae CSET wedi’u helpu i gael gwaith, ac aros ynddo, ym Mae Abertawe hyd heddiw.