Swyddi Gwag Diweddaraf a Newyddion ar gyfer Cyflogwyr
Nid ydym ni’n hysbysebu swyddi gwag yma ar hyn o bryd.
Cysylltwch â CESA trwy’r manylion isod i gael gwybodaeth am swyddi gwag
Swyddi Gwag Diweddaraf
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid ar 01792 464 229 neu drwy anfon neges e-bost at cesa@cetwales.co.uk
neu drwy ein ffurflen gyswllt ar-lein..
Beth mae Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid yn ei gynnig i gyflogwyr?
O ganlyniad i’r ffordd unigryw y mae Cyflogaeth a Hyfforddiant y Cyreniaid Cyf yn cael ei ariannu, rydym ni’n gallu darparu gwasanaeth RHAD AC AM DDIM i chi i hysbysebu eich swyddi gwag ar yr un diwrnod y byddwch chi’n eu rhoi nhw i ni; dilyn meini prawf cyn-dethol manwl fel y byddwch chi’n gweld pobl sy’n briodol i’r swydd yn unig; rhoi diweddariad i chi o fewn 24 awr a bob dydd wedi hynny; cynnig ein lle swyddfa i chi i gynnal cyfweliadau a pharatoi ein cleientiaid er mwyn gwneud yn siwr eu bod nhw’n deall eich anghenion busnes.
Bydd gweithiwr cyswllt penodol a enwyd ar gael pryd bynnag y bydd arnoch ei angen i gynnig cymorth yn y gwaith a cheisio pecynnau hyfforddiant wedi’u teilwra sy’n benodol i’ch busnes. Gallwn gynnig cyngor ar ddatblygu eich gweithlu presennol a chael mynediad at hyfforddiant rhad ac am ddim hefyd.
Mae Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gleientiaid o wahanol gefndiroedd a sectorau. Pan fyddwch chi’n cofrestru eich swydd wag gyda ni, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod chi’n dod o hyd i’r unigolyn perffaith ar gyfer eich sefydliad.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio ein proses recriwtio rad ac am ddim, ffoniwch Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid ar 01792 464 229 neu anfonwch neges e-bost at enquiries@cetwales.co.uk
Mae Asiantaeth Cymorth Cyflogaeth y Cyreniaid yn darparu datrysiadau recriwtio proffesiynol, rhad ac am ddim i fusnesau lleol yn ogystal â phecyn o gymorth a chyngor ymarferol wedi’i deilwra i’r unigolyn ar gyfer ceiswyr gwaith ar draws ardal Bae Abertawe.
Mae hyn yn cynnwys cyfrifiaduron a mynediad am ddim i’r rhyngrwyd ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith, cymorth i ysgrifennu CV a llenwi ffurflenni cais, gwybodaeth am yrfaoedd a chyngor ar hyfforddiant a pharatoi am gyfweliad.
Mae manylion cyswllt ar gael ar ein tudalen gysylltiadau.